The more modern we become, the more we need anchorage. Anchorage in memory, dreams, ancestry and myth, and the whole universe of our connected imagination.
- Simon Schama
How will we create our place and make our way in this changing world, building a stable, sustainable, engaged society that values the intersection of culture, citizenship and economy?
A series of carefully assembled discussions and performances with artists, journalists, creatives and politicians; sparking enriching, lively conversations about how we perceive our world, language and culture. These events will kick off the festival each day in the early afternoon across the three days.
· Christopher Kissane (host)
· Billy Mag Fhloinn
· Eddie Ladd
Our Clebran discussions begin with a collective reimagining of folk traditions. Folklorist, musician and archaeologist Billy Mag Fhloinn created Pagan Rave as a means of exploring ideas of ancient ceremony and custom. Music, costume, movement and the sensation of collective joy allows those taking part to directly experience the role these rituals play, then and now. Working with performer Eddie Ladd, the two have created a unique performance for Clebran that brings together ideas of our ancient traditions and reimagines them.
· Jude Rogers (host)
· Gwenno
· Iarla Ó Lionáird
· Sage Todz
A conversation featuring some exceptional singers and musicians who are reviving, preserving and promoting the Irish, Welsh and Cornish languages through music and song. We will hear about their own language journeys and how expressing themselves through different tongues became so important to their creative imaginings. Performance from Irla O’Lionaird.
· Marian Gwyn (host)
· Diarmaid Ferriter
· Richard Wyn Jones
The Welsh and the Irish share the unenviable position of being amongst the first peoples to be colonised by England, and those painful histories underpin our national psyches. Less spoken of are the ways in which each played a part in the colonial machine, and the benefits that followed. Our panel unravels the complexities to help us understand how we have arrived at today and how we might move forward.
· Huw Stephens (host)
· Aoife Ní Bhriain
· First Minister of Wales Mark Drakeford
· Mererid Hopwood
The cultural landscapes of Wales and Ireland are keystones for our identities, be it for those at home or those away. Creativity and connection paved the way and have never been more vital for our onward paths. Our panellists have each explored these ideas from different vantage points and share thoughts on what this might mean for our collective futures. Performance from Aoife Ní Bhriain.
· Christopher Kissane (host)
· Jane Davidson
· Rabab Ghazoul
· Róise Goan
· Molly Palmer
Wales was the first country in the world to legislate for the protection of those not yet born via the Wellbeing of Future Generations Act, and many of those goals flow into the Ireland-Wales shared statement and joint action plan 2021-2025. We ask our panel to help us envisage how art, creativity and culture can help realise those goals, whose voices are needed and who gets to decide?
_______
Sut byddwn ni’n creu ein lle ac yn gwneud ein ffordd yn y byd cyfnewidiol hwn, gan adeiladu cymdeithas sefydlog, gynaliadwy, ymgysylltiol sy’n gwerthfawrogi croestoriad diwylliant, dinasyddiaeth ac economi?
Cyfres o drafodaethau a pherfformiadau wedi’u llunio’n ofalus gydag artistiaid, newyddiadurwyr, unigolion creadigol a gwleidyddion sy’n sbarduno sgyrsiau bywiog a chyfoethog ynghylch ein canfyddiad o’n byd, ein hiaith a’n diwylliant. Bydd y digwyddiadau hyn yn cychwyn yr ŵyl bob dydd ar ddechrau’r prynhawn dros y tridiau.
Dydd Iau 3 Tachwedd
4.00PM
CELTIAID CYNDDEIRIOG
Christopher Kissane (llywydd)
Billy Mag Fhloinn
Eddie Ladd
Mae ein trafodaethau Clebran yn dechrau gydag ail-ddychmygu traddodiadau gwerin ar y cyd. Cafodd Pagan Rave ei greu gan y llên-gwerinwr, y cerddor a'r archeolegydd Billy Mag Fhloinn fel modd o archwilio syniadau ynghylch seremoni ac arfer hynafol. Mae cerddoriaeth, gwisgoedd, symudiad a theimlad o lawenydd cyfunol yn galluogi'r rheiny sy'n cymryd rhan i gael profiad uniongyrchol o'r rôl y mae'r defodau hyn yn ei chwarae, ddoe a heddiw. Gan weithio gyda’r perfformiwr Eddie Ladd, mae’r ddau wedi creu perfformiad unigryw ar gyfer Clebran sy’n dod â syniadau o’n traddodiadau hynafol ynghyd ac yn eu hail-ddychmygu.
5.15PM
CEIDWAID Y FFLAM
Jude Rogers (llywydd)
Gwenno
Iarla Ó Lionáird
Sage Todz
Dyma i chi sgwrs yn cynnwys cantorion a cherddorion eithriadol sy'n adfywio, cadw a hyrwyddo'r Wyddeleg, y Gymraeg a'r Gernyweg trwy gerddoriaeth a chân. Cawn glywed am eu teithiau iaith eu hunain a sut y daeth mynegi eu hunain trwy wahanol ieithoedd mor bwysig i’w dychymyg creadigol. Perfformiad gan Irla O’Lionaird.
Dydd Gwener 4 Tachwedd
2.00PM
ADLEISIAU’R YMERODRAETH
Marian Gwyn (llywydd)
Diarmaid Ferriter
Richard Wyn Jones
Mae’r Cymry a’r Gwyddelod yn rhannu’r sefyllfa annymunol o fod ymhlith y bobloedd cyntaf i gael eu gwladychu gan Loegr, ac mae’r hanesion poenus hynny’n sail i’n meddylfryd cenedlaethol. Sonnir llai am y ffyrdd y chwaraeodd pob un ran yn y peiriant trefedigaethol, a'r manteision a ddaeth yn sgil hynny. Mae ein panel yn datrys y cymhlethdodau i'n helpu i ddeall sut rydym wedi cyrraedd yma heddiw a sut y gallem symud ymlaen.
3.15PM
PWY YDYM NI?: DIWYLLIANT, HUNANIAETH, CREADIGEDD A’R CYMRY A’R GWYDDELOD AR WASGAR
Huw Stephens (llywydd)
Aoife Ní Bhriain
Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford
Mererid Hopwood
Mae tirweddau diwylliannol Cymru ac Iwerddon yn gonglfeini i’n hunaniaeth, boed hynny ar gyfer y rheiny gartref neu’r rheiny sydd oddi cartref. Roedd creadigrwydd a chysylltiad yn arwain y ffordd ac nad ydynt erioed wedi bod yn fwy hanfodol ar gyfer ein llwybrau i’r dyfodol. Mae pob un o’n panelwyr wedi archwilio’r syniadau hyn o wahanol safbwyntiau ac yn rhannu meddyliau am beth y gallai hyn ei olygu ar gyfer ein dyfodol cyfunol. Perfformiad gan Aoife Ní Bhriain.
Dydd Sadwrn 5 Tachwedd
2.00PM
DYCHMYGU’R DYFODOL
Christopher Kissane (llywydd)
Jane Davidson
Rabab Ghazoul
Róise Goan
Molly Palmer
Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu er mwyn amddiffyn y rheiny nad ydynt wedi’u geni eto drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ac mae llawer o’r nodau hynny’n llifo i gyd-ddatganiad Iwerddon-Cymru a chydgynllun gweithredu 2021-2025. Gofynnwn i’n panel ein helpu i ragweld sut y gall celf, creadigrwydd a diwylliant helpu i wireddu’r nodau hynny, lleisiau pwy sydd eu hangen a phwy sy’n cael penderfynu?